Hygyrchedd

 

Mae partneriaid y prosiect wedi ymrwymo i ddarparu gwefan y gall y gynulleidfa ehangaf bosibl, pa allu neu allu technegol bynnag sydd ganddi, droi ati.

Lle bo modd, bydd y wefan yn ceisio cydymffurfio ag o leiaf lefel Dwbl-A Canllawiau 2.0 Consortiwm y We Fyd-eang (W3C) i Hygyrchedd Cynnwys y We. Mae’r canllawiau hynny’n esbonio sut mae peri i gynnwys y we fod yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau. Bydd cydymffurfio â’r canllawiau hynny’n helpu i’w gwneud hi’n haws i bawb ddefnyddio’r We.

Wrth adeiladu’r wefan hon fe ddefnyddiwyd cod sy’n cydymffurfio â safonau W3C ar gyfer XHTML a CSS. Mae’r wefan yn ymddangos yn gywir yn y porwyr cyfredol ac, oherwydd defnyddio safonau sy’n cydymffurfio â chod XHTML/CSS, bydd unrhyw borwyr yn y dyfodol hefyd yn ei dangos hi’n gywir.

Mae’r wefan yn dibynnu ar ddefnyddio lluniau digidol. Er bod hynny’n rhoi sylw i broblem diffyg hygyrchedd daearyddol, yr ydym yn sylweddoli nad yw’n datrys yn llawn y problemau a geir gan ddefnyddwyr sydd â nam ar eu golwg. Er hynny, diben y wefan yw annog y cyhoedd i gyflwyno cyfraniadau testunol gan y cyhoedd er mwyn creu disgrifiadau o’r lluniau, a’r rheiny’n rhai sy’n weladwy i beiriannau darllen.

Mae gwefan Prydain oddi Fry yn cynnig mapio dynamig ar gyfer chwilio a phlotio’r canlyniadau’n ofodol. Er nad yw’r mapiau a ddefnyddir yn y wefan yn hygyrch i ddefnyddwyr sydd â nam ar eu golwg, yr ydym yn cynnig dewisiadau chwilio eraill. Ar dudalen y chwiliad uwch, cynigiwn flychau dwyreiniad/gogleddiad y gall y defnyddiwr fwydo cyfesurynnau iddynt â llaw i wneud yr un chwiliad gofodol ag a gynigir i ddefnyddwyr y mapiau dynamig. Gan fod y chwiliad uwch hefyd yn cynnwys chwilio rhestr o enwau lleoedd, gall y defnyddiwr fwydo enw lle i’r blwch yn hytrach na defnyddio’r map dynamig gofodol i chwilio. Ar ôl i’r defnyddiwr gael rhestr o’r canlyniadau, caiff ddewis eu plotio ar fap. Yna, gall y defnyddiwr ddewis un o’r pinnau i gael gwybod rhagor am gofnod y llun hwnnw a chysylltu drwodd i dudalen y manylion llawn amdano. Yr ydym wedi datblygu tabl sylfaenol sy’n rhestru’r canlyniadau a gall peiriant darllen ddarllen y tabl hwnnw a bod yn fodd i’r defnyddiwr ddefnyddio’r rhestr honno i gysylltu drwodd i’r cofnod unigol o’r llun.

Yr ydym wedi ymrwymo i weithredu rhaglen o waith profi a datblygu i sicrhau bod y wefan yn fwy hygyrch yn gyffredinol, ac i ddefnyddio defnyddwyr anabl wrth i ni wneud hynny. Os cewch chi unrhyw drafferth yn y cyfamser wrth gyrchu gwefan Prydain oddi Fry, defnyddiwch y ffurflen adborth i gysylltu â ni