Am y Prosiect

 

 Casgliad Aerofilms

Ar wefan Prydain oddi Fry ceir lluniau sy’n dod o gasgliad Aerofilms, yr archif unigryw o awyrluniau sydd o bwys rhyngwladol. Yn y casgliad hwnnw ceir 1.26 miliwn o negyddion a thros 2000 o albymau o ffotograffau. Mae’r casgliad cyfan, sy’n dyddio o’r cyfnod 1919-2006, yn cynnig darlun di-ail o’r newidiadau ym mhryd a gwedd Prydain yn yr 20fed ganrif. Ynddo y ceir y nifer fwyaf, a’r pwysicaf, o’r awyrluniau a dynnwyd o Brydain cyn 1939. Am fod y casgliad hefyd yn amrywiol ac yn cynnwys golygfeydd o fannau trefol, maestrefol, gwledig, arfordirol a diwydiannol, mae’n cynnig tystiolaeth bwysig i’n helpu i ddeall a rheoli’r amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd naturiol.

Crëwyd y casgliad gan Aerofilms Cyf, cwmni a fu’n arloesi ym myd arolygu o’r awyr ers i ddau gyn-filwr o’r Rhyfel Byd Cyntaf, Francis Lewis Wills a Claude Grahame-White, ei sefydlu ym 1919. Ehangodd Aerofilms ei gasgliadau drwy brynu dau gasgliad llai, sef rhai AeroPictorial (1934-1960) ac Airviews (1947-1991).

Prynodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC), English Heritage (EH) a Chomisiwn Brenhinol Henebion yr Alban (RCAHMS) y casgliad mawr iawn hwn o awyrluniau hanesyddol oddi wrth Blom ASA yn 2007.

 

Prosiect Prydain oddi Fry (2010-2014)

Prosiect pedair-blynedd oedd Prydain oddi Fry, a’i nod oedd sicrhau cadwraeth 95,000 o’r ffotograffau hynaf a mwyaf gwerthfawr yng nghasgliad Aerofilms – y rhai sy’n dyddio o’r cyfnod 1919-1953. Ar ôl gwneud gwaith cadwraeth arnynt, cânt eu sganio i fformat digidol a’u rhoi ar y wefan hon i’r cyhoedd eu gweld. Roedd modd cyflawni’r prosiect am iddo gael grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a chymorth Sefydliad Foyle a rhoddwyr eraill. Mae mwy na 95,000 o ddelweddau ar y wefan. Mae’r wefan yn rhoi cyfle i chi rannu a chofnodi eich atgofion a gwybodaeth am y lleoedd a ddangosir yn y casgliad ac i archwilio’r cynnwys sy’n cael ei greu fel rhan o’r prosiect.