Polisi ynghylch Cwcis

 

Cwcis

Beth yw Cwcis?

Mae cwcis yn ffeiliau sy’n storio gwybodaeth ar eich gyriant caled neu’ch porwr ac yn golygu y gall Prydain oddi Fry wybod eich bod chi wedi ymweld â’r wefan o’r blaen. Maent yn ei gwneud hi’n haws i chi gadw’ch hoffterau ar y wefan, a thrwy weld sut y byddwch chi’n eu defnyddio, gallwn ni ei haddasu yn unol â’ch hoffterau a mesur pa mor hwylus yw hi i ddefnyddio’r wefan.

Sut mae rhwystro defnyddio Cwcis?

Os dymunwch, gallwch chi analluogi’r cwcis o’ch porwr a dileu pob cwci sydd wedi’i storio ar eich cyfrifiadur ar hyn o bryd. Gallwch chi gael gwybod sut mae gwneud hynny yn achos eich porwr penodol chi drwy glicio ar “help” ar ddewislen eich porwr neu drwy fynd i http://www.allaboutcookies.org/manage-cookies/index.html. Ond cofiwch: os dewiswch chi analluogi cwcis o’ch porwr, gall hynny’ch rhwystro rhag manteisio’n llawn ar y wefan a gall rhai o nodweddion y wefan fethu â gweithio. O ddarllen yr adran isod “Defnyddio Cwcis gan Brydain oddi Fry” fe welwch chi fod pob cwci a ddefnyddir wedi’i gydnabod yn gwci hollbwysig a bod ei angen i wneud i’r wefan weithio.

Defnyddio Cwcis gan Brydain oddi Fry

Er ein bod ni’n defnyddio cwcis ar y wefan, fyddwn ni ddim yn casglu nac yn storio data personol. Pan fydd rhywun yn ymweld â’n gwefan, fe gasglwn ni wybodaeth lòg safonol y rhyngrwyd. Gwnawn hynny i gael gwybod pethau fel faint o bobl sydd wedi ymweld â gwahanol rannau o’r wefan. Casglwn y wybodaeth honno mewn ffordd nad yw’n adnabod neb. Os byddwn ni’n awyddus i gasglu gwybodaeth bersonol yn y wefan, fe ddangoswn ni hynny. Fe’i gwnawn hi’n glir pryd y byddwn ni’n casglu gwybodaeth bersonol ac fe esboniwn ni’r hyn y bwriadwn ei wneud â hi. Yn y rhestr isod cewch drosolwg o bob cwci a ddefnyddir gan wefan Prydain oddi Fry a diben y cwci hwnnw. Wrth ochr pob cwci ceir lefel y categori, a disgrifir honno ymhellach yn yr adran “Categorïau o gwcis”.

     has_js – mae ganddo gwci javascript (categori – cwbl angenrheidiol)

Defnyddir y cwci has_js i ddangos a yw javascript wedi’i alluogi ym mhorwr y defnyddiwr. Os yw’r cwci wedi’i osod i wir (1), mae javascript wedi’i alluogi ym mhorwr y defnyddiwr ac mae hynny’n fodd i’r defnyddiwr ddefnyddio holl nodweddion y wefan (yn benodol, chwyddo mapiau a lluniau a throshaenau blwch golau). Os gosodir y cwci i anwir (0), dydy javascript ddim wedi’i alluogi ar gyfer porwr y defnyddiwr neu dydy’r porwr ddim yn cynnal javascript. Ystyr hynny yw na fydd agweddau penodol ar y wefan, megis mapio a gweld lluniau, yn gweithredu’n llawn.

     sess* - cwci sesiwn (categori – cwbl angenrheidiol)

Bydd Prydain oddi Fry’n gosod cwci sesiwn (sess*) pan ddaw defnyddiwr i’r wefan. Mae’r cwci’n gweithio drwy osod allwedd sy’n fodd i’r wefan weld sut mae’r defnyddwyr yn rhyngweithio â’r tudalennau gwe, gan gynnwys eu llwybr drwy’r wefan. Mae angen y cwci hwnnw hefyd i ddangos pryd y mae defnyddiwr wedi mewngofnodi. Mae gwybod a yw defnyddiwr wedi mewngofnodi neu beidio yn fodd i’r defnyddiwr ddal i fod wedi’i fewngofnodi wrth iddo/iddi symud drwy’r wefan a hefyd yn golygu bod y tudalennau wedi’u haddasu/personoleiddio ar gyfer y defnyddiwr. Mae’n fodd hefyd i’r defnyddiwr ychwanegu ffefrynnau at ei gyfrif/ei chyfrif, eu storio yno a gallu cael gafael arnynt wrth fewngofnodi i’r wefan rywbryd eto. Mae’r cwci sesiwn hefyd yn fodd i osod cyfraniadau yn erbyn y defnyddiwr er mwyn i’r wefan allu dangos pa gyfraniadau a wnaed gan ddefnyddwyr penodol. Mewn gair, mae darparu nodweddion cyffredinol y wefan i ddefnyddwyr sydd wedi mewngofnodi ac sy’n dymuno cyfrannu ac ymwneud â’r wefan yn dibynnu ar osod y cwcis sesiwn.

     Cwcis sy’n gysylltiedig â Chyfryngau Cymdeithasol (categori – darparu nodweddion)

Wrth bob llun Aerofilms ar wefan Prydain oddi Fry mae botwm Facebook “Like”, botwm trydar Twitter yn ogystal â botwm rhannu Google+ sy’n fodd i’r defnyddiwr lwytho i fyny’r llun Aerofilms, teitl y llun ac URL Prydain oddi Fry ar gyfer y llun hwnnw i’r gwefannau sy’n eiddo i’r cyfryngau cymdeithasol. Gosodir cwcis trydydd-parti yn yr achosion hyn er mwyn i’r defnyddiwr allu rhannu’r lluniau’n gymdeithasol os yw’n dymuno.

     Cwcis _utma,_utmb,_utmc,_utmz Google Analytics (categori – perfformiad)

Defnyddir y cwcis hyn gan Google Analytics i’w helpu i gasglu ystadegau i roi gwybod i ni sut y mae’r ymwelwyr â’n gwefan yn ei defnyddio hi. Bydd ein staff yn defnyddio’r wybodaeth honno mewn adroddiadau agregedig i helpu i fesur profiad ein hymwelwyr, a sut y gallem ni ei wella.

Categorïau o gwcis

a) Cwbl angenrheidiol

Ar y cyfan, bydd y cwcis hyn yn gwcis sesiwn parti-cyntaf hanfodol, ac os ydynt yn rhai parhaus neu’n rhai drydydd-parti, dylai fod cyfiawnhad da i hynny. Ni fydd pob cwci sesiwn parti-cyntaf yn perthyn i’r categori ‘cwbl angenrheidiol’ at ddibenion y ddeddfwriaeth. Fel rheol, caiff cwcis cwbl angenrheidiol eu defnyddio i storio dynodwr unigryw i reoli ac adnabod y defnyddiwr fel un unigryw i ddefnyddwyr eraill sy’n defnyddio’r wefan ar y pryd, a hynny er mwyn rhoi gwasanaeth cyson a chywir i’r defnyddiwr.

Ymhlith yr enghreifftiau mae:

• Cofio gweithredoedd blaenorol (e.e. testun a fwydwyd iddi) wrth lywio’n ôl i dudalen yn yr un sesiwn.
• Rheoli a phasio tocynnau diogelwch i wahanol wasanaethau mewn gwefan i ganfod statws yr ymwelydd (e.e. a yw wedi mewngofnodi neu beidio)
• Cadw tocynnau ar gyfer gweithredu rhannau diogel o’r wefan
• Llwybreiddio’r cwsmeriaid at fersiynau/cymwysiadau penodol o wasanaeth, megis y rhai y gellid eu defnyddio yn ystod mudiad technegol

Chaiff y cwcis hyn mo’u defnyddio

• I gasglu gwybodaeth y gellid ei defnyddio i farchnata i’r defnyddiwr.
• I gofio hoffterau’r cwsmer neu rif adnabod y defnyddiwr y tu allan i sesiwn unigol (onid yw’r defnyddiwr wedi gofyn am y nodwedd honno.

b) Perfformiad

Dylai’r cwcis hyn fod yn gwcis parti-cyntaf neu drydydd-parti, yn gwcis sesiwn neu’n gwcis parhaus. I ddod o fewn y categori hwnnw, dylid cyfyngu eu defnyddio i berfformiad ac i wella’r wefan.

Ymhlith yr enghreifftiau mae:

• Dadansoddeg gwe – lle caiff y data a gesglir eu cyfyngu i ddefnydd gweithredydd y wefan yn unig er mwyn rheoli perfformiad a dyluniad y wefan. Gall y cwcis hyn fod yn gwcis trydydd-parti ond rhaid i’r wybodaeth fod i’w defnyddio’n unig gan gyhoeddwr y wefan yr ymwelir â hi.
• Cyfraddau ymateb i hysbysebion – lle defnyddir y data’n unswydd i gyfrifo cyfraddau ymateb (cyfraddau clicio-drwodd) i gynyddu effeithiolrwydd hysbysebion sydd wedi’u pwrcasu ar wefan sy’n allanol i’r wefan a gyrchir. Os defnyddir yr un cwci i aildargedu hysbysebion ar wefan trydydd-parti, byddai hynny’n syrthio y tu allan i’r categori perfformiad (gweler categori d)
• Llwybro cymdeithion – lle defnyddir y cwci i adael i gymdeithion wybod i ymwelydd â gwefan ymweld â phartner-wefan rywbryd yn ddiweddarach ac ai canlyniad yr ymweliad oedd defnyddio neu brynu cynnyrch neu wasanaeth, gan gynnwys manylion y cynnyrch a’r gwasanaeth a brynwyd. Mae cwcis llwybro cymdeithion yn fodd i’r cydymaith gynyddu effeithiolrwydd ei safle. Os defnyddir yr un cwci i aildargedu hysbysebion, byddai hynny’n syrthio y tu allan i’r categori perfformiad (gweler categori d)
• Rheoli gwallau – Mesur gwallau a gyflwynir ar wefan. Fel rheol, diben hynny fydd helpu i wella’r gwasanaeth neu’r ffordd o ymdrin â chwynion ac fe fydd, yn gyffredinol, wedi’i gysylltu’n agos â dadansoddeg gwe.
• Profi dyluniadau – Profi amrywiadau ar ddyluniad gan ddefnyddio, fel rheol, A/B neu brawf amlamrywedd, i sicrhau golwg a theimlad cyson i ddefnyddiwr y wefan yn y sesiynau cyfredol a sesiynau dilynol. Ni ddylid defnyddio’r cwcis hyn i aildargedu hysbysebion; os gwneir hynny, dylid eu gosod yng nghategori d) hefyd.

c) Darparu nodweddion

Gall y cwcis hyn fod yn gwcis parti-cyntaf, yn gwcis trydydd-parti, yn gwcis sesiwn neu’n gwcis parhaus. Bydd y cwcis hynny fel rheol yn deillio o weithred gan y defnyddiwr, ond gellid hefyd eu gweithredu wrth ddarparu gwasanaeth na ofynnwyd amdano’n benodol ond a gynigiwyd i’r defnyddiwr. Gellir hefyd eu defnyddio i rwystro’r defnyddiwr rhag cael cynnig gwasanaeth sydd wedi’i gynnig i’r defnyddiwr o’r blaen ac wedi’i wrthod.

Ymhlith yr enghreifftiau mae:

• Cofio’r gosodiadau y mae defnyddiwr wedi’u cymhwyso at wefan, megis patrwm, maint y ffont, hoffterau, lliwiau ac ati.
• Cofio dewis fel na chaiff gais eto i lenwi holiadur.
• Canfod a yw gwasanaeth eisoes wedi’i gynnig, megis cynnig sesiwn tiwtorial pan fydd yn ymweld â’r wefan yn y dyfodol.
• Darparu gwybodaeth i wasanaeth dewisol allu gweithredu, megis cynnig sesiwn sgwrsio byw.
• Cyflawni cais gan y defnyddiwr, megis cyflwyno sylw.

Ni ddylid defnyddio’r cwcis hyn i aildargedu hysbysebion; os gwneir hynny, dylid eu gosod yng nghategori d) hefyd.

d) Targedu/hysbysebu

Fel rheol, cwcis trydydd-parti fydd y rhain, ond os yw’r defnyddiwr yn ymweld â gwefan y rhwydwaith hysbysebu ei hun, mae’n dechnegol bosibl iddynt allu bod yn gwcis parti-cyntaf. Byddant bob amser yn gwcis parhaus ond yn gyfyngedig eu hamser. Gallant fod yn gysylltiedig â’r gwasanaethau a ddarperir gan y trydydd parti, ond nid dyna ydynt bob amser. Mae’r cwcis hyn yn cynnwys allwedd unigryw sy’n gallu gwahaniaethu rhwng arferion pori defnyddwyr unigol neu storio cod a allai ddefnyddio gwybodaeth sydd wedi’i storio yn rhywle arall i’w drosi’n set o arferion neu hoffterau pori. Fel rheol, dylai’r datganiad preifatrwydd ddynodi a gaiff y cwci ei ddefnyddio’n rhan o rwydwaith hysbysebu.  Gellir hefyd ddefnyddio cwcis i gyfyngu ar nifer y troeon y bydd defnyddiwr yn gweld hysbyseb benodol ar wefan ac i fesur pa mor effeithiol mewn ymgyrch benodol.

Ymhlith yr enghreifftiau mae:

• Cwcis a osodir gan rwydweithiau hysbysebu i gasglu arferion pori er mwyn targedu hysbysebion perthnasol at y defnyddiwr. Does dim angen i’r wefan y mae’r defnyddiwr yn ymweld â hi i fod yn cyflwyno hysbysebion, ond felly y bydd hi’n aml.
• Cwcis sydd wedi’u gosod gan rwydweithiau hysbysebu ar y cyd â gwasanaeth a weithredir gan y wefan i allu cynyddu ei nodweddion, megis rhoi sylw ar flog, ychwanegu gwefan at rwydwaith cymdeithasol y defnyddiwr, darparu mapiau neu gynnwys rhifyddion i gyfrif faint o ddefnyddwyr sy’n ymweld â gwefan.

English Heritage
Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Scotland
Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales
Heritage Lottery Fund