Bar offer y lluniau
Sylwch fod angen i chi fod wedi cofrestru a mewngofnodi i gael defnyddio rhai o’r nodweddion ar far offer y lluniau.
Mae bar offer y llun o dan bob llun Aerofilms yn cynnig y dewisiadau hyn:
"Hoffi hwn"
Mae’r botwm “Hoffi hwn” yn fodd i chi ddangos eich bod yn hoffi’r llun. Os cliciwch chi ar “Hoffi hwn”, daw’r llun yn un o’r pum llun a ddangosir ar sioe sleidiau’r hafan. Caiff y lluniau a hoffir hefyd eu grwpio gyda’i gilydd yn yr oriel “Y Rhai Difyrraf”.
Ychwanegu pin
Mae’r cyswllt “ychwanegu pìn” yn fodd i chi anodi’r llun. Yn gyntaf, chwyddwch y llun nes cyrraedd y rhan benodol yr hoffech chi gyflwyno sylwadau arni. Yna cliciwch ar “ychwanegu pìn” a chliciwch ar y rhan benodol honno o’r llun. Bydd blwch yn agor er mwyn i chi allu ychwanegu sylw (gallwch chi hefyd lwytho llun i fyny i gyd-fynd â’ch sylw). Yna, cliciwch ar y botwm “Rhannu”. Bydd y tudalen yn adnewyddu a bydd marciwr yn ymddangos ar y llun lle y rhoesoch chi ef. Bydd clicio ar y pìn yn agor swigen a fydd â’ch sylw ynddi. Bydd y cyfraniad hefyd yn ymddangos o dan y tab “Manylion y llun a sylwadau arno” a bydd pìn wrth ei ochr i ddangos mai anodiad yw ef.
Bydd y togl “cuddio pinnau” ar y bar offer yn fodd i chi weld neu gael gwared ar haen y pinnau.
Ychwanegu llun Aerofilms at grŵp
(neu ‘cysgodi’ llun Aerofilms mewn grŵp)
Os gwelwch chi lun yr hoffech ei drafod gyda grŵp yr ydych yn aelod ohono, dewiswch enw’r grŵp o’r rhestr sy’n agor o’r bar offer o dan y llun. Yna, cewch eich ysgogi i ychwanegu sylw
Os gwelwch chi lun yr hoffech ei drafod gyda grŵp yr ydych yn aelod ohono, dewiswch enw’r grŵp o’r rhestr sy’n agor o’r bar offer o dan y llun. Ar ôl i chi ddewis grŵp, bydd mân lun o lun Aerofilms yn ymddangos ar dudalen y grŵp a chewch gais i ychwanegu sylw at y llun. Cliciwch y botwm “Rhannu” i gwblhau’r broses o ychwanegu cysgod y llun at y grŵp.
Cadw i’ch proffil
Os gwelwch chi lun gan Aerofilms yr hoffech ei gadw i’ch proffil, gallwch chi glicio ar y cyswllt “Cadw i ’mhroffil i” a bydd hynny’n creu cyswllt i adran “Hoff Luniau” eich proffil yn awtomatig. Os hoffech chi ddad-gadw llun o’ch proffil, gallwch chi gysylltu drwodd i’r llun a chlicio ar “Tynnu o ’mhroffil i” yn y bar llwyd.
Cyfryngau Cymdeithasol
Darperir ambell gyswllt â gwefannau cyfryngau cymdeithasol sef, yn benodol, Facebook "Like", Twitter a Google+. Os cliciwch chi ar un o’r eiconau, cewch rannu’r llun Aerofilms gyda phobl eraill ar y wefan o’ch dewis.
sign in/register i bostio sylwadau a lluniau.
Blue Lias quarry
dydd Sadwrn 9th Mawrth
8:26yp
Penarth cement plant Lias screener/loader
dydd Sadwrn 9th Mawrth
8:25yp
Augusta Road
dydd Gwener 20th Gorffennaf
5:54yp
Archer Road Railway Bridge
dydd Gwener 20th Gorffennaf
5:52yp
Penarth Station
dydd Gwener 20th Gorffennaf
5:51yp
Trinity Methodist Church
dydd Gwener 20th Gorffennaf
5:49yp
All Saints Anglican Church
dydd Gwener 20th Gorffennaf
5:48yp
Westbourne Road
dydd Mercher 4th Gorffennaf
5:15yp
Lavernock Road
dydd Mercher 4th Gorffennaf
5:15yp
Recreation Ground
dydd Mercher 4th Gorffennaf
5:14yp