Getting Started

Cychwyn gyda Phrydain oddi Fry!

Ewch i’r tudalen Gair am y Prosiect i gael gwybod rhagor am brosiect Prydain oddi Fry.

 

Beth yw diben y wefan hon?

Dyma wahoddiad i chi’n helpu ni i adnabod hen awyrluniau o Brydain a rhoi gwybodaeth amdanynt. Ewch ati, felly, i gofrestru, chwilio am luniau a chyfrannu gwybodaeth. Cewch chi ddefnyddio’r crynodeb ffeithiol ac ychwanegu allweddeiriau, sylwadau, lluniau a phethau eraill (gweler ‘Sut mae Cyfrannu’ isod).

Mae elfen gymdeithasol, hefyd, i’r wefan. Pan gofrestrwch chi, caiff proffil ei greu ar eich cyfer. Hoffem eich annog i lenwi rhagor ar y proffil hwnnw a bwrw golwg ar broffiliau’r cyfranwyr eraill. Yn y ddewislen fe welwch chi hefyd adran “grwpiau”. Bydd croeso i chi ymuno â’r grwpiau sydd wedi’u cychwyn yn barod neu i greu’ch grŵp eich hun. Mae’r grwpiau’n fodd i’r aelodau drafod lluniau Aerofilms yng nghyd-destun thema’r grŵp.

Ewch i’r wybodaeth isod am gychwyn ar y wefan, ac edrychwch ar Sut mae Cychwyn.  (Eng | Cym)

I gael canllaw pellach ynghylch defnyddio offer eraill ar y wefan, ewch i’n tudalen Cymorth Technegol

 

Sut mae dod o hyd i luniau Aerofilms?

Chwilio sylfaenol – defnyddiwch y blwch chwilio yn y gornel uchaf ar y dde i wneud “chwiliad testun rhydd”

Chwilio manwl – cliciwch ar “rhagor o ddewisiadau chwilio” o dan y blwch chwilio i fynd i’r tudalen chwilio manwl. Chwiliwch ar sail map, blwyddyn, allweddair neu enw lle, neu gyfuniad ohonynt.

Pori – Ar y tudalen “pori”, cewch chi bori’r lluniau ar sail map neu dag allweddair.

 

Sut mae cyfrannu?

Pan ddewch chi o hyd i lun yr hoffech chi gyfrannu gwybodaeth amdano, cewch wneud hynny fel hyn:

 

Ychwanegu sylw/llun

Ar ôl mewngofnodi, gallwch chi ychwanegu sylw a chysylltu llun wrtho. Rhowch eich sylw ym maes y testun ar y tab ‘Manylion a sylwadau ar y llun’. Fe welwch chi hefyd fod botwm i lwytho llun i fyny i gyd-fynd â’ch sylw. Cewch chi ateb sylw rhywun arall mewn ffordd debyg iawn. Mae cyswllt “ateb i’r sylw hwn” i’w weld o dan bob sylw. Bydd blwch codi’n ymddangos lle gallwch chi roi’ch ateb a’i anfon.

Gallwch chi hefyd olygu neu ddileu sylwadau yr ydych chi wedi’u gwneud.

O fewn grŵp, mae cyfrannu sylwadau a lluniau yn gweithio yn yr un ffordd yn union..

 

Ychwanegu pìn at y ddelwedd

Yn y bar offer o dan y llun fe welwch chi gyswllt o’r enw “Ychwanegu pìn”. Mae’n fodd i chi anodi’r llun drwy glicio ar ran ohono a rhoi sylw (a llwytho ffotograff i fyny, os dymunwch) i ddisgrifio’r rhan honno.

Yn gyntaf, chwyddwch y llun tan i chi gyrraedd y man penodol yr hoffech chi gyflwyno sylw yn ei gylch. Yna cliciwch “ychwanegu pìn” a chliciwch ar y darn penodol hwnnw o’r llun. Bydd blwch codi’n agor ac ynddo cewch ychwanegu sylw at y pìn (gallwch chi hefyd lwytho llun i fyny i gyd-fynd â’ch sylw). Yna, cliciwch ar y botwm “Rhannu”. Bydd y tudalen yn adnewyddu a bydd marciwr yn ymddangos ar y llun i farcio’ch cyfraniad. Bydd clicio ar y pìn anodi yn agor swigen sy’n dangos eich sylw. Anodiad yw unrhyw sylw o dan y tab “Sylwadau a lluniau” sydd â phìn yn ei ymyl. .

Mae’r togl "cuddio pinnau" yn y bar offer yn fodd i chi weld neu gael gwared ar haen y pinnau.
 

Ychwanegu/golygu allweddair

Ar dudalen cofnod Aerofilms, cliciwch ar “tagiau golygu” ar y tab ‘Manylion a sylwadau ar y llun’

Dylai’r tag ddisgrifio’r llun mewn rhyw ffordd, h.y. os yw’r llun yn dangos pont reilffordd, byddai unrhyw un o’r termau “rheilffordd”, “pont” neu “pont reilffordd” yn addas

Rhaid rhoi geiriau neu ymadroddion y tag naill ai fesul un ar bob llinell, fel hyn

rheilffordd
pont
pont reilffordd

neu roi coma rhwng pob un, fel hyn:

rheilffordd, pont, pont reilffordd

Caiff pob tag a ychwanegwch ei gynnwys yn y rhestr o allweddeiriau’r tagiau ar dudalen “Pori” y wefan fel bod modd defnyddio allweddair i chwilio.

 

Cyfrannu lleoliad daearyddol

O dan yr eitem "Orielau" ar y ddewislen cewch oriel o luniau o’r enw “Heb eu hadnabod”. Gwaetha’r modd, wyddon ni fawr o ddim am y lluniau hynny a does gennym ni ddim syniad ble y’u tynnwyd. Os gallwch chi enwi lleoliad un neu ragor ohonynt, gallwch chi glicio ar y cyswllt “pennu un newydd” ar ochr dde’r llun. Bydd hynny’n agor map ac yn gadael i chi ei chwyddo’r map a chlicio ar y lleoliad penodol. Bydd y cyfesurynnau’n llenwi’r blychau o dan y map a gallwch chi glicio ar “newid safle”.

Os oes rhywun arall wedi cynnig lleoliad i lun sydd “Heb ei adnabod” ac os yw’r cynnig hwnnw, yn eich barn chi, yn anghywir, dilynwch y cyfarwyddiadau uchod i gyflwyno safle gwell. Anwybyddwch y pìn a roddwyd ar y map o’r blaen.

 

Ychwanegu llun Aerofilms at grŵp

Os gwelwch lun Aerofilms yr hoffech ei drafod gyda grŵp yr ydych chi’n aelod ohono, dewiswch enw’r grŵp o blith yr enwau yn y gwymplen yn y bar offer o dan y llun. Yna cewch eich ysgogi i ychwanegu sylw i gyflwyno’r llun i’r grŵp. Cliciwch y botwm “Rhannu” i gwblhau ychwanegu’r llun at y grŵp.

 

Prynu lluniau

Os hoffech chi brynu llun digidol neu brint, ewch i’n tudalen Prynu Lluniau.